Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 80

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 80 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 04 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

80Tystysgrif gwblhauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon ac adran 81 yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 78 neu 79 i berson (“P”).

(2)Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod P wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r awdurdod roi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i P (“tystysgrif gwblhau”) sy’n rhyddhau’r hysbysiad.

(3)Caiff P wneud cais i’r awdurdod ar unrhyw adeg am dystysgrif gwblhau.

(4)Mae’r cais—

(a)i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, a

(b)i gynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod.

(5)Os yw awdurdod lleol yn gwrthod cais o dan is-adran (3), rhaid iddo roi hysbysiad i P fod y cais wedi ei wrthod.

(6)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi rhesymau’r awdurdod dros wrthod y cais,

(b)datgan y caiff P apelio o dan adran 81 yn erbyn y penderfyniad, ac

(c)pennu’r cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.

(7)Rhaid i awdurdod lleol sy’n rhoi tystysgrif neu hysbysiad o dan yr adran hon gymryd camau rhesymol i ddwyn y dystysgrif neu’r hysbysiad i sylw unrhyw bersonau y mae’r awdurdod yn meddwl bod y dystysgrif neu’r hysbysiad yn debygol o effeithio arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Back to top

Options/Help