Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/03/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 9 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 11 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

9Lleoliadau gofal awyr agored i blantLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae lleoliadau gofal awyr agored yng Nghymru yn ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon.

(2)Mae mangre yn lleoliad gofal awyr agored i’r graddau—

(a)nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig, a

(b)y mae o fewn is-adran (3) neu (4).

(3)Mae mangre o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) (“Mesur 2010”) fel mangre y mae person wedi ei awdurdodi i ddarparu gofal dydd i blant ynddi, neu

(b)os yw’n rhan o fangre sydd wedi ei chofrestru yn y modd hwnnw.

(4)Mae mangre o fewn yr adran hon os yw’n rhan o fangre (y “mangre ddomestig”) sy’n fan preswylio arferol person sydd wedi ei gofrestru i weithredu fel gwarchodwr plant o dan Ran 2 o Fesur 2010.

(5)Nid yw lleoliad gofal awyr agored o fewn is-adran (3) yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon ond pan yw gofal dydd i blant yn cael ei ddarparu—

(a)yn y lleoliad gofal awyr agored, neu

(b)mewn mangre sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Fesur 2010 (pa un a yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig ai peidio) y mae’r lleoliad gofal awyr agored yn rhan ohoni.

(6)Nid yw lleoliad gofal awyr agored o fewn is-adran (4) yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon ond—

(a)pan yw’r gwarchodwr plant yn gweithredu fel gwarchodwr plant yn y fangre ddomestig (pa un ai mewn rhan ohoni sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig ai peidio) ar gyfer o leiaf un plentyn, a

(b)pan yw’r plentyn hwnnw neu, yn ôl y digwydd, o leiaf un o’r plant hynny yn y lleoliad gofal awyr agored.

(7)At ddibenion yr adran hon, mae i’r cyfeiriadau at ddarparu gofal dydd a gweithredu fel gwarchodwr plant yr un ystyr ag ym Mesur 2010.

(8)Nid yw mangre i gael ei thrin fel pe bai o fewn is-adran (3) neu (4) i’r graddau y mae’n dir ysgol (gweler adran 10 (tir ysgolion) am hyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 9 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Back to top

Options/Help