Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 92 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

92Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 88(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—

(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, a

(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.

(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 92 mewn grym ar 29.11.2024 gan O.S. 2024/1248, ergl. 2(gg) (ynghyd ag erglau. 4, 5)

Back to top

Options/Help