PENNOD 3LL+CGWAREDIADAU ESEMPT
9Esemptiadau: cyffredinolLL+C
(1)Mae’r Bennod hon yn darparu esemptiad rhag treth ar gyfer gwarediadau deunydd penodol a fyddai fel arall i’w trin fel gwarediadau trethadwy.
(2)Nid yw gwarediad deunydd sy’n esempt rhag treth yn warediad trethadwy.
(3)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
10Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safleLL+C
Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth i’r graddau—
(a)y mae’n warediad deunydd sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn gwarediad trethadwy—
(i)a wnaed ar safle tirlenwi awdurdodedig, a
(ii)yr oedd treth i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, a
(b)y’i gwneir ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig â’r gwarediad trethadwy hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I4A. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
11Mynwentydd anifeiliaid anwesLL+C
(1)Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth—
(a)os yw’n warediad deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall, a
(b)os y’i gwneir ar safle tirlenwi awdurdodedig sy’n bodloni’r amod yn is-adran (2).
(2)Yr amod yw na wnaed unrhyw warediadau tirlenwi ar y safle yn ystod y cyfnod perthnasol, heblaw am warediadau deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall.
(3)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym, neu â’r diwrnod y daw’r safle yn safle tirlenwi awdurdodedig, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y gwarediad a grybwyllir yn is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I6A. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
12Pŵer i addasu esemptiadauLL+C
(1)Caiff rheoliadau—
(a)creu esemptiad ychwanegol rhag treth,
(b)addasu esemptiad presennol, neu
(c)dileu esemptiad.
(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i esemptiad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu cyn y gwneir gwarediad).
(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I8A. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3