RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 2Y WEITHDREFN AR GYFER CODI’R DRETH

47Yr amod ar gyfer codi treth

1

At ddibenion y Bennod hon, mae person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw’r person—

a

wedi gwneud y gwarediad, neu

b

wedi achosi neu ganiatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.

2

At ddibenion is-adran (1)(b)—

a

mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn rheoli, neu mewn sefyllfa i reoli, cerbyd modur neu ôl-gerbyd y gwnaed y gwarediad ohono i’w drin fel pe bai wedi achosi i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny, a

b

mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn berchennog, yn lesddeiliad neu’n feddiannydd y tir lle y gwnaed y gwarediad i’w drin fel pe bai wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny,

oni bai bod y person yn bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys nad achosodd neu na chaniataodd y person i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.

3

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

a

amgylchiadau pan fo person i’w drin fel pe bai’n bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod ar gyfer codi treth, neu

b

materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw person yn bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod hwnnw.

4

Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

48Pŵer i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol

1

Caiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson os ymddengys i ACC

a

bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

b

bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler adran 47).

2

Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol—

a

nodi’r tir lle yr ymddengys fod y gwarediad trethadwy wedi ei wneud;

b

disgrifio amgylchiadau’r gwarediad a natur y deunydd a waredwyd, i’r graddau y maent yn hysbys i ACC;

c

datgan pryd yr ymddengys y gwnaed y gwarediad, ac os yw ACC wedi amcangyfrif pryd y gwnaed y gwarediad, esbonio sut y mae ACC wedi amcangyfrif hynny;

d

esbonio pam fod ACC o’r farn fod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad;

e

datgan swm y dreth y bwriedir ei godi ar y gwarediad;

f

esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd.

3

Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol hefyd hysbysu’r person y’i dyroddir iddo—

a

y dyroddir hysbysiad o dan adran 49 ar ôl diwedd 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad rhagarweiniol,

b

y caiff y person wneud cais i ACC ymestyn y cyfnod hwnnw, ac

c

y caiff y person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i ACC unrhyw bryd cyn y dyroddir hysbysiad o dan adran 49.

4

Caiff un hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â mwy nag un gwarediad trethadwy neu â nifer heb ei ganfod o warediadau trethadwy.

5

Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod yn ymwybodol o unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

6

Ni chaiff ACC ychwaith ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg yr ymddengys i ACC y gwnaed unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

49Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth ar ôl dyroddi hysbysiad rhagarweiniol

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

a

ACC wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson o dan adran 48, a

b

y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y cytunodd ACC iddo, wedi dod i ben.

2

Rhaid i ACC naill ai—

a

dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gwarediadau y mae’r hysbysiad rhagarweiniol yn ymwneud â hwy, neu

b

dyroddi hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad â’r gwarediadau hynny.

3

Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i berson onid yw’n fodlon—

a

bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

b

bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad.

4

Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi hysbysiad codi treth i berson ai peidio, rhaid i ACC roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y person.

5

Rhaid i hysbysiad codi treth—

a

rhoi manylion y gwarediad neu’r gwarediadau trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu â hwy;

b

esbonio pam fod ACC wedi ei fodloni bod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad neu’r gwarediadau;

c

datgan swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad neu’r gwarediadau;

d

esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd;

e

hysbysu’r person am yr hawl i ofyn am adolygiad a’r hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan Ran 8 o DCRhT.

50Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC

a

wedi ei fodloni bod person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy a wnaed yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

b

o’r farn ei bod yn debygol y collir treth os yw’n gweithredu o dan adrannau 48 a 49.

2

Caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i’r person heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf.

3

Rhaid i hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys—

a

yr wybodaeth a bennir yn adran 49(5), a

b

rhesymau ACC dros ddyroddi’r hysbysiad heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf.

4

Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth o dan yr adran hon fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod yn ymwybodol o unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

5

Ni chaiff ACC ychwaith ddyroddi hysbysiad codi treth o dan yr adran hon fwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg yr ymddengys i ACC y gwnaed unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

51Talu treth

1

Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad codi treth iddo dalu’r swm o dreth a godir gan yr hysbysiad.

2

Rhaid talu’r dreth cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

3

Os dyroddir hysbysiadau codi treth i fwy nag person mewn cysylltiad â’r un gwarediad trethadwy, mae’r holl bersonau hynny’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y swm o dreth a godir ar y gwarediad.

52Pŵer i wneud darpariaeth bellach

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

a

y gweithdrefnau ar gyfer dyroddi hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth;

b

talu swm o dreth a godir gan hysbysiad codi treth;

c

unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chodi swm o dreth neu dalu swm o dreth o dan y Bennod hon, neu’n deillio o hynny.

2

Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

53Llog taliadau hwyr

1

Mae adran 157 o DCRhT (llog taliadau hwyr ar drethi datganoledig) (a amnewidir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

1A

Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.

3

Yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

c

yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.