RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 2MANNAU NAD YDYNT AT DDIBENION GWAREDU
I1I555Dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu
1
Caiff ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru yn fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle.
2
Rhaid i hysbysiad sy’n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu bennu—
a
y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’n ymwneud ag ef,
b
ffiniau’r man a ddynodir ganddo, ac
c
y dyddiad y mae dynodiad y man yn cael effaith.
3
Mewn perthynas â’r hysbysiad—
a
rhaid iddo bennu’r disgrifiadau o ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi yn y man nad yw at ddibenion gwaredu,
b
caiff bennu disgrifiadau o ddeunydd na chaniateir ei ddodi yn y man hwnnw,
c
rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i bwysau unrhyw ddeunydd a ddodir yn y man neu a symudir ymaith o’r man gael ei ganfod drwy ddefnyddio dull a bennir yn yr hysbysiad,
d
caiff bennu uchafswm y deunydd y caniateir ei gadw yn y man,
e
rhaid iddo bennu’r gweithgarwch safle tirlenwi y caniateir ei gyflawni yn y man, ac
f
rhaid iddo bennu’r cyfnod hwyaf y caniateir cadw deunydd yn y man.
4
Caiff y ddarpariaeth a wneir gan yr hysbysiad o dan is-adran (3) gynnwys—
a
darpariaeth sy’n ddarostyngedig i amodau neu eithriadau, a
b
darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol (gan gynnwys disgrifiadau gwahanol o ddeunydd).
5
Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon drwy ddyroddi hysbysiad pellach i weithredwr y safle.
6
Mewn perthynas â hysbysiad sy’n amrywio neu’n canslo dynodiad—
a
rhaid iddo nodi manylion yr amrywio neu’r canslo,
b
rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae’n cael effaith, ac
c
caiff bennu’r camau y mae’n ofynnol i’r gweithredwr eu cymryd mewn cysylltiad â’r amrywio neu’r canslo, neu’r camau y caniateir iddo eu cymryd mewn cysylltiad â hynny.
7
Caiff ACC wneud, amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon—
a
ar gais gweithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r dynodiad yn ymwneud ag ef, neu
b
ar ei gymhelliad ei hun.
8
Rhaid i gais i ddynodi, i amrywio neu i ganslo gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.
9
Os yw ACC yn gwrthod cais, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig.
10
Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.
I256Dyletswyddau gweithredwr mewn perthynas â man nad yw at ddibenion gwaredu
1
Pan fo—
a
hysbysiad mewn grym sy’n dynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yn fan nad yw at ddibenion gwaredu, a
b
deunydd ar y safle sydd o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad fel deunydd y mae’n rhaid ei ddodi, neu na chaniateir ei ddodi, yn y man hwnnw,
rhaid i weithredwr y safle sicrhau yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â darpariaethau’r hysbysiad.
2
Mae is-adran (1) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â deunydd os gwneir gwarediad trethadwy o’r deunydd y tu allan i’r man nad yw at ddibenion gwaredu.
3
Nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â deunydd—
a
os yw gwarediad trethadwy o’r deunydd i’w wneud yn union ar ôl iddo gael ei gynhyrchu ar y safle tirlenwi awdurdodedig neu ei gludo iddo, neu
b
os yw’r deunydd ar ei hynt rhwng lleoedd y tu allan i’r safle ac yn mynd i gael ei symud o’r safle ar unwaith.
4
Nid yw’r is-adran honno yn gymwys ychwaith—
a
os yw ACC yn cytuno mewn achos penodol y caniateir ymdrin â deunydd mewn modd nad yw’n unol â darpariaethau’r hysbysiad sy’n dynodi’r man nad yw at ddibenion gwaredu, a
b
os ymdrinnir â’r deunydd yn unol â’r cytundeb.
5
Mewn perthynas â chytundeb a roddir gan ACC o dan is-adran (4)(a)—
a
caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau;
b
caiff ddarparu bod unrhyw beth a wneir mewn perthynas â deunydd a nodir yn y cytundeb i’w drin fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â deunydd arall o’r un disgrifiad ar y safle tirlenwi awdurdodedig;
c
caiff ymwneud â phethau a wnaed cyn rhoi’r cytundeb os yw ACC wedi ei fodloni na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i weithredwr y safle sicrhau ei gytundeb cyn i’r pethau hynny gael eu gwneud.
6
Gweler adran 8(3)(g) am ddarpariaeth sy’n trin gwarediad trethadwy fel pe bai wedi ei wneud os cedwir deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan is-adran (4)(a).
7
Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch amgylchiadau pan na fo is-adran (1) yn gymwys (neu pan fo’n peidio â bod yn gymwys).
I357Dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel
1
Pan fo rhan o safle tirlenwi awdurdodedig wedi ei dynodi’n fan nad yw at ddibenion gwaredu, rhaid i weithredwr y safle gadw cofnodion sy’n ymwneud â deunydd a ddodir yn y man.
2
Rhaid i’r cofnodion fod yn ddigonol i alluogi ACC i benderfynu pa un a yw’r gweithredwr yn cydymffurfio ag adran 56 mewn perthynas â’r deunydd, neu a yw wedi cydymffurfio â’r adran honno.
I63
Caiff ACC bennu—
a
ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r cofnodion, a
b
yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddynt.
4
Rhaid i’r gweithredwr storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y deunydd ei symud o’r man nad yw at ddibenion gwaredu, neu’r dyddiad y mae’n peidio â bod yn ddeunydd o ddisgrifiad y mae’n rhaid ei ddodi yn y man, pa un bynnag sydd gynharaf.
5
Ond gall cytundeb a roddir o dan adran 56(4)(a) mewn perthynas â deunydd ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr storio’r cofnodion sy’n ymwneud â’r deunydd yn ddiogel am gyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â dyddiad gwahanol (boed gynharach neu ddiweddarach) i’r un a bennir yn is-adran (4).
6
Gweler Pennod 2 o Ran 3 o DCRhT am ddyletswyddau eraill i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel sy’n gymwys pan gaiff gwarediad trethadwy ei drin fel pe bai wedi ei wneud yn rhinwedd adran 8(3)(g).
I4I758Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu
Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i) (a fewnosodir gan adran 38 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—
j
penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;