RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON
Cyffredinol
70Talu cosbau
Rhaid talu cosb o dan y Bennod hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).
71Gwahardd cosbi ddwywaith
Nid yw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.
72Atebolrwydd cynrychiolwyr personol
1
Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Bennod hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.
2
Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.
73Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—
a
symiau cosbau o dan y Bennod hon, a
b
y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Bennod hon.
2
Caiff y rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon.