Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth
88Addasu contractau
(1)Pan fo—
(a)gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,
(b)contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac
(c)ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,
mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.
(2)At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.
(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—
(a)newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,
(b)newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu
(c)newid yn swm y dreth sydd i’w godi.
89Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.
(2)Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—
(a)mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond
(b)nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.
(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;
(b)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;
(c)ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;
(d)ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;
(e)ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;
(f)ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;
(g)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;
(h)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;
(i)ar gyfer adolygiadau ac apelau.
(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.
90Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT.
91Arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon
(1)Wrth arfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru;
(b)caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i arfer pwerau a dyletswyddau o dan adran 92.