Valid from 25/01/2018
Valid from 01/04/2018
(a gyflwynir gan adran 15)
ATODLEN 1LL+CDEUNYDD CYMWYS: DEUNYDDIAU PENODEDIG AC AMODAU
CyffredinolLL+C
1Mae’r Tabl yn nodi—
(a)yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;
(b)yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.
TABL
Grŵp | Deunyddiau | Amodau |
---|---|---|
1 | Creigiau a phridd | Eu bod yn digwydd yn naturiol |
2 | Deunydd cerameg neu goncrit | |
3 | Mwynau | Eu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi |
4 | Slag ffwrnais | |
5 | Lludw | |
6 | Cyfansoddion anorganig actifedd isel | |
7 | Calsiwm sylffad | 1. Bod y drwydded amgylcheddol sy’n ymwneud â’r safle y gwaredir y deunydd ynddo yn awdurdodi gwarediadau tirlenwi o wastraff nad yw’n beryglus yn unig. 2. Bod y deunydd yn cael ei waredu mewn cell nad yw’n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy. |
8 | Calsiwm hydrocsid a heli | Ei fod wedi ei waredu mewn ceudod heli |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
DehongliLL+C
2Mae’r Tabl i’w ddehongli yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
3Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 1—
(a)creigiau;
(b)clai;
(c)tywod;
(d)grafel;
(e)tywodfaen;
(f)calchfaen;
(g)malurion cerrig;
(h)caolin;
(i)cerrig adeiladu;
(j)cerrig o ddymchwel adeiladau neu strwythurau;
(k)llechi;
(l)isbridd;
(m)silt;
(n)sorod.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
4Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 2—
(a)gwydr, gan gynnwys enamel wedi ei ffritio;
(b)cerameg, gan gynnwys brics, brics a morter, teils, nwyddau clai, crochenwaith, tseini a deunyddiau anhydrin;
(c)concrit, gan gynnwys blociau concrit cyfnerthedig, brisblociau a blociau aercrit.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
5Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 2 yn cynnwys—
(a)ffeibr gwydr na phlastig a gyfnerthwyd â gwydr;
(b)golchion gweithfeydd concrit.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
6Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 3—
(a)tywod mowldio, gan gynnwys tywod ffowndri defnyddiedig;
(b)clai, gan gynnwys clai mowldio ac amsugnyddion clai (gan gynnwys pridd pannwr a bentonit);
(c)amsugnyddion mwynol;
(d)ffeibrau mwynol o waith dyn, gan gynnwys ffeibrau gwydr;
(e)silica;
(f)mica;
(g)treulyddion mwynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
7Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 3 yn cynnwys—
(a)tywod mowldio sy’n cynnwys glynwyr organig;
(b)ffeibrau mwynol o wneuthuriad dyn a wnaed o—
(i)plastig a gyfnerthwyd â gwydr, neu
(ii)asbestos.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
8Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 4—
(a)gwastraff a gweddillion gwydredig o brosesu mwynau yn thermol pan fo’r gwastraff neu’r gweddillion yn ymdoddedig ac yn anhydawdd;
(b)slag o losgi gwastraff.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
9Yr unig ddeunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yw lludw sy’n codi a lludw gwaelod—
(a)o hylosgi pren neu wastraff, neu
(b)o hylosgi glo neu olosg petrolewm (gan gynnwys lludw sy’n codi a lludw gwaelod a gynhyrchir pan gaiff glo neu olosg petrolewm ei hylosgi gyda biomas).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
10Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yn cynnwys lludw sy’n codi—
(a)o slwtsh carthion, neu
(b)o losgyddion gwastraff trefol, gwastraff clinigol neu wastraff peryglus.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
11Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 6—
(a)gwastraff adwaith seiliedig ar galsiwm, a’r gwastraff hwnnw’n deillio o gynhyrchu titaniwm deuocsid;
(b)calsiwm carbonad;
(c)magnesiwm carbonad;
(d)magnesiwm ocsid;
(e)magnesiwm hydrocsid;
(f)haearn ocsid;
(g)fferrig hydrocsid;
(h)alwminiwm ocsid;
(i)alwminiwm hydrocsid;
(j)sirconiwm deuocsid.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
12Mae Grŵp 7 yn cynnwys calsiwm sylffad, gypswm a phlastrau sy’n seiliedig ar galsiwm sylffad ond nid yw’n cynnwys bwrdd plastr.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
13Yn nhrydedd golofn y Tabl, ystyr “gwastraff nad yw’n beryglus” yw gwastraff nad yw’n wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 18 Tachwedd 2008.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
(a gyflwynir gan adran 34(3))
ATODLEN 2LL+CYR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR
Gwybodaeth gyffredinolLL+C
1Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw’r person;
(b)unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;
(c)datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;
(d)cyfeiriad busnes y person;
(e)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;
(f)y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵpLL+C
2Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—
(a)datganiad o’r ffaith honno;
(b)enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;
(c)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;
(d)enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodauLL+C
3Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
DehongliLL+C
4At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
(a gyflwynir gan adran 41(8))
ATODLEN 3LL+CYR HYN SYDD I’W GYNNWYS AR ANFONEB DIRLENWI
1LL+CRhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)rhif adnabod;
(b)dyddiad dyroddi’r anfoneb;
(c)enw a chyfeiriad y person sy’n dyroddi’r anfoneb;
(d)y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC;
(e)enw a chyfeiriad y person y dyroddir yr anfoneb iddo;
(f)dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy;
(g)disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;
(h)cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy;
(i)pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;
(j)unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd;
(k)unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy;
(l)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad trethadwy;
(m)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
2LL+CPan ddyroddir anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, rhaid iddi ddangos, mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy, yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1(f) i (l).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
(a gyflwynir gan adran 90)
ATODLEN 4LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
Valid from 01/04/2018
1LL+CMae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
2LL+CYn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel) (fel y’i diwygir gan baragraff 7 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
3LL+CYn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”) (fel y’i diwygir gan baragraff 9 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle’r geiriau o “y “dyddiad ffeilio”” i’r diwedd rhodder “—
(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;
(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
4LL+CYn adran 104 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “103,” mewnosoder “103A neu 103B,”;
(c)yn is-adran (2), hepgorer “busnes”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
5LL+CYn adran 105 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(b)yn is-adran (1) yn lle “103 i’r fangre busnes” rhodder “103, 103A neu 103B i’r fangre”;
(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).”
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
6LL+CYn adran 107 (dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A, 103B”.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
7LL+CYn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—
(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;
(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(c)yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(d)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder “103, 103A neu 103B—
(a)onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,”;
(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Y gofyniad cymwys yw—
(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;
(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;
(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
8LL+CYn adran 111 (dehongli Pennod 4)—
(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.”
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
9LL+CYn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) (fel y’i diwygir gan baragraff 39 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.”
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
10LL+CYn adran 121 (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn is-adran (1), ar ôl “adran 118,” mewnosoder “118A,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
11LL+CYn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (fel y’i hamnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).”;
(b)yn is-adran (3), yn lle “adran 122A” rhodder “adrannau 122ZA a 122A”.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
12LL+CYn adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) (a fewnosodir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122ZA”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
13LL+CYn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) (fel y’i diwygir gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (2), yn lle “adran 122 neu 122A” rhodder “adrannau 122 i 122A”.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
14LL+CYn adran 127 (asesu cosbau) (fel y’i diwygir gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”;
(b)yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
15LL+CYn adran 157A (llog taliadau hwyr ar gosbau) (a fewnosodir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), yn lle “y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon” rhodder “sy’n ymwneud â threth ddatganoledig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
16LL+CYn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy) (fel y’i diwygir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Valid from 01/04/2018
17LL+CYn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl) (fel y’i diwygir gan baragraff 64 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (2), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;
(b)yn is-adran (4), ym mharagraff (a), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;
(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—
(a)adran 154, neu
(b)adran 70 o DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
18LL+CYn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) (fel y’i diwygir gan baragraff 68 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (9)(a), ar ôl “103(4) neu 105(3)” mewnosoder “(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))”.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
19LL+CYn adran 192 (dehongli) (fel y’i diwygir gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (2), mewnosoder yn y lleoedd priodol—
““ystyr “DTGT” (“LDTA“) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3);”;
““mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;”;
(b)yn yr is-adran honno, yn y diffiniad o “Deddfau Trethi Cymru”—
(i)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);
(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, ac
(c)DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
20LL+CYn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) (fel y’i diwygir gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT), yn Nhabl 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol—
DTGT (“LDTA”) | adran 192(2) |
Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”) | adran 192(2) |
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 4 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)