(1)Caiff rheoliadau—
(a)creu esemptiad ychwanegol rhag treth,
(b)addasu esemptiad presennol, neu
(c)dileu esemptiad.
(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i esemptiad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu cyn y gwneir gwarediad).
(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3