RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH
26Rhyddhadau: cyffredinol
1
Mae’r Bennod hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer gwarediadau trethadwy penodol.
2
Nid yw’r Bennod hon ond yn gymwys i warediadau a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig.
3
Nid yw’r dreth i’w chodi mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw wedi ei ryddhau rhag treth.
4
Rhaid hawlio rhyddhad rhag treth ar ffurflen dreth.