29Defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwyLL+C
(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw—
[F1(a)yn warediad deunydd—
(i)sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu
(ii)sy’n uwchbridd i gyd, a]
(b)yn rhan o waith adfer a gyflawnir yn unol â chymeradwyaeth a roddir gan ACC.
(2)Ni chaiff ACC gymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig onid yw—
(a)gweithredwr y safle yn gwneud cais ysgrifenedig i ACC am y gymeradwyaeth,
(b)y cais yn cael ei wneud cyn i’r gwaith adfer ddechrau, ac
(c)ACC wedi ei fodloni bod y gwaith yn ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.
(3)Caiff cymeradwyaeth—
(a)ymwneud â’r holl waith a ddisgrifir yn y cais am y gymeradwyaeth neu ran ohono;
(b)ymwneud â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu a gyflawnir ar ôl hynny (neu’r ddau);
(c)bod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud rhoi adroddiadau i ACC ynglŷn â chyflawni’r gwaith yn ofynnol).
Diwygiadau Testunol
F1A. 29(1)(a) wedi ei amnewid (11.10.2018) gan Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/1057), rhlau. 1(2), 2
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 29(1) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
I3A. 29(2)(3) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(e)