RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH

I1I230Gwaith adfer safle: y weithdrefn wrth wneud cais am gymeradwyaeth

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wedi gwneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gyflawni gwaith adfer.

2

Caiff ACC ofyn drwy hysbysiad am ragor o wybodaeth gan y gweithredwr at ddiben penderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth ai peidio neu o dan ba delerau y dylid ei rhoi.

3

Rhaid i hysbysiad am gais am ragor o wybodaeth—

a

cael ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, a

b

pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth bellach, y mae’n rhaid iddo fod yn 30 o ddiwrnodau o leiaf gan ddechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cais.

4

Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau—

a

os nad yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, neu

b

os yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r cynharaf o’r canlynol—

i

y diwrnod y mae ACC yn cael yr wybodaeth, a

ii

y diwrnod y mae’r cyfnod ar gyfer darparu’r wybodaeth yn dod i ben.

5

Os yw ACC yn cymeradwyo’r cais, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

6

Caiff ACC a gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gytuno i ymestyn cyfnod a bennir gan yr adran hon neu oddi tani.

7

Os yw’r cyfnod a bennir yn is-adran (4) (gan gynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod y cytunir iddo o dan is-adran (6)) yn dod i ben heb i ACC fod wedi dyroddi hysbysiad am ei benderfyniad, mae ACC i’w drin fel pe bai wedi cymeradwyo cyflawni gwaith adfer fel y’i disgrifir yn y cais (gan gynnwys unrhyw ran o’r gwaith a gyflawnwyd rhwng yr adeg y gwnaed y cais a’r adeg y daeth y cyfnod hwnnw i ben).