RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH

I1I232Ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli

1

Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os yw’n warediad deunydd ,

F1i

sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu

ii

sy’n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau nad yw’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân;

b

os caiff ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig (neu ar ran o safle o’r fath) a ddefnyddiwyd ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio brig neu weithrediadau chwarela,

c

os caiff ei wneud yn unol ag amod caniatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r safle gael ei ail-lenwi (neu i’r rhan o dan sylw gael ei hail-lenwi) yn llwyr neu’n rhannol ar ôl i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, a

d

os na wnaed unrhyw warediadau trethadwy eraill ar y safle (neu ar y rhan o dan sylw) ers i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, ar wahân i warediadau a oedd wedi eu rhyddhau rhag treth o dan adran 28 neu o dan yr adran hon F2neu warediadau y byddent wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon pe baent yn cael eu gwneud yn awr

2

Os daeth y gwarediadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i ben cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(d) at warediadau trethadwy eraill yn cynnwys gwarediadau a oedd yn warediadau trethadwy at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Cyllid 1996 (p. 8) (treth dirlenwi).

3

Os daeth yr holl weithrediadau mwyngloddio brig a’r holl weithrediadau chwarela ar y safle i ben cyn 1 Hydref 1999, nid yw’r gwarediadau deunydd ar y safle wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon oni bai bod y gofyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(c) wedi ei osod ar y dyddiad hwnnw neu cyn hynny.