RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Cofrestru
I335Dyletswydd i fod yn gofrestredig
I21
Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC.
I12
Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy ond nad yw wedi ei gofrestru—
a
gwneud cais ysgrifenedig i ACC i gael ei gofrestru, a
b
gwneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.
I13
Rhaid i ACC gofrestru’r person os yw wedi ei fodloni bod y cais—
a
yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan ACC i gofrestru’r person, a
b
ar y ffurf a bennir gan ACC (os o gwbl).
I14
Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais.
I15
Os yw ACC yn cofrestru’r person, rhaid i’r hysbysiad nodi cofnod y person yn y gofrestr.