43Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwiLL+C
(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gadw cofnod (sef “crynodeb treth gwarediadau tirlenwi”) o—
(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y person, F1...
[F2(aa)swm y credyd treth a hawliwyd gan y person, a]
(b)y dreth a dalwyd gan y person,
mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.
(2)Caiff ACC bennu—
(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi, a
(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.
(3)Mae’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yn gywir ac yn gyflawn.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 43(1)(a) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 4(a)
F2A. 43(1)(aa) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 4(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 43(1)(3) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
I3A. 43(2) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(o)