RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 2GWAREDIADAU TRETHADWY

I1I25Safleoedd tirlenwi awdurdodedig a thrwyddedau amgylcheddol

1

Mae tir yn safle tirlenwi awdurdodedig os yw trwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi mewn grym mewn perthynas â’r tir.

2

Trwydded a roddir o dan reoliadau a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p. 24) yw trwydded amgylcheddol.