RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru

64Cosbau am gyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig

(1)

Mae person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) (dyletswydd i fod yn gofrestredig) yn agored i gosb o £300.

(2)

Os yw person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad ydynt yn fwy na £60 ar gyfer pob diwrnod y mae’r person yn parhau i wneud hynny.

(3)

Y cyfnod cosbi cychwynnol yw’r cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person am y gosb o dan is-adran (1).

(4)

Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—

(a)

adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)

apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.