Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

77Dynodi grŵp o gwmnïau
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff ACC ddynodi dau gorff corfforaethol neu ragor yn grŵp at ddibenion y dreth.

(2)Gwneir dynodiad drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp.

(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y cyrff corfforaethol sy’n aelodau o’r grŵp;

(b)pa aelod o’r grŵp yw’r aelod cynrychiadol;

(c)y dyddiad y mae’r dynodiad yn cael effaith.

(4)Effeithiau dynodi grŵp yw—

(a)bod aelod cynrychiadol y grŵp i’w drin at ddibenion y dreth fel gweithredwr pob safle tirlenwi awdurdodedig y mae aelod o’r grŵp yn weithredwr iddo;

(b)bod rhaid i swm perthnasol y byddai’n ofynnol i gorff corfforaethol ei dalu fel arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir tra bo’n aelod o’r grŵp gael ei dalu, felly, gan yr aelod cynrychiadol yn lle hynny;

(c)bod rhwymedigaeth ar bob un o’r canlynol yn unigol ac ar y cyd mewn perthynas ag unrhyw ran o’r swm perthnasol sy’n parhau i fod heb ei thalu ar ôl y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol ei dalu—

(i)pob corff corfforaethol a oedd yn aelod o’r grŵp ar adeg y weithred neu’r anwaith a arweiniodd at y gofyniad i dalu’r swm, a

(ii)unrhyw gorff corfforaethol arall a oedd yn aelod o’r grŵp ar y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol dalu’r swm.

(5)Ni chaiff ACC ond dynodi grŵp o gyrff corfforaethol ar gais un neu ragor o’r cyrff hynny.

(6)Rhaid i gais i ddynodi grŵp gael ei gyflwyno mewn ysgrifen; a rhaid i’r corff neu’r cyrff sy’n gwneud y cais fodloni ACC y’i gwneir gyda chytundeb pob aelod arfaethedig arall o’r grŵp.

(7)Os yw ACC yn gwrthod cais i ddynodi grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r corff neu’r cyrff a wnaeth y cais.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)swm o dreth;

(b)cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;

(c)llog ar swm o fewn paragraff (a) neu (b).