77Dynodi grŵp o gwmnïauLL+C
(1)Caiff ACC ddynodi dau gorff corfforaethol neu ragor yn grŵp at ddibenion y dreth.
(2)Gwneir dynodiad drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp.
(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)y cyrff corfforaethol sy’n aelodau o’r grŵp;
(b)pa aelod o’r grŵp yw’r aelod cynrychiadol;
(c)y dyddiad y mae’r dynodiad yn cael effaith.
(4)Effeithiau dynodi grŵp yw—
(a)bod aelod cynrychiadol y grŵp i’w drin at ddibenion y dreth fel gweithredwr pob safle tirlenwi awdurdodedig y mae aelod o’r grŵp yn weithredwr iddo;
(b)bod rhaid i swm perthnasol y byddai’n ofynnol i gorff corfforaethol ei dalu fel arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir tra bo’n aelod o’r grŵp gael ei dalu, felly, gan yr aelod cynrychiadol yn lle hynny;
(c)bod rhwymedigaeth ar bob un o’r canlynol yn unigol ac ar y cyd mewn perthynas ag unrhyw ran o’r swm perthnasol sy’n parhau i fod heb ei thalu ar ôl y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol ei dalu—
(i)pob corff corfforaethol a oedd yn aelod o’r grŵp ar adeg y weithred neu’r anwaith a arweiniodd at y gofyniad i dalu’r swm, a
(ii)unrhyw gorff corfforaethol arall a oedd yn aelod o’r grŵp ar y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol dalu’r swm.
(5)Ni chaiff ACC ond dynodi grŵp o gyrff corfforaethol ar gais un neu ragor o’r cyrff hynny.
(6)Rhaid i gais i ddynodi grŵp gael ei gyflwyno mewn ysgrifen; a rhaid i’r corff neu’r cyrff sy’n gwneud y cais fodloni ACC y’i gwneir gyda chytundeb pob aelod arfaethedig arall o’r grŵp.
(7)Os yw ACC yn gwrthod cais i ddynodi grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r corff neu’r cyrff a wnaeth y cais.
(8)Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—
(a)swm o dreth;
(b)cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;
[F1(ba)swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;]
(c)llog ar swm o fewn paragraff (a) [F2, (b) neu (ba)].
Diwygiadau Testunol
F1A. 77(8)(ba) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 5(a)
F2Geiriau yn a. 77(8)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 5(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 77 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(w)