(1)Mae cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig yng Nghymru i’w drin fel gwarediad trethadwy o’r deunydd y cyflawnir y gweithgarwch mewn perthynas ag ef (pa un a fodlonir yr amodau yn adran 3 ai peidio).
(2)Mae’r gwarediad trethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei wneud pan gyflawnir y gweithgarwch safle tirlenwi penodedig am y tro cyntaf mewn perthynas â’r deunydd.
(3)Mae’r canlynol yn fathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig pan gânt eu cyflawni ar safle tirlenwi awdurdodedig—
(a)defnyddio deunydd i greu ffordd dros dro sy’n rhoi mynediad i fan gwarediadau tirlenwi neu i gynnal a chadw ffordd o’r fath;
(b)defnyddio deunydd i greu arwyneb solet dros dro neu i gynnal a chadw arwyneb o’r fath;
(c)defnyddio deunydd i greu bwnd cell neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;
(d)defnyddio deunydd (heblaw deunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnir o’r safle) i greu bwnd sgrinio dros dro neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;
(e)defnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn peidio dros dro;
(f)gosod deunydd mewn man gwarediadau tirlenwi i ddarparu sylfaen ar gyfer unrhyw beth a ddefnyddir i leinio, i gapio neu i ddraenio’r man hwnnw, neu er mwyn atal difrod i unrhyw beth o’r fath;
(g)cadw deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man o dan adran 55, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan adran 56(4)(a);
(h)storio lludw (er enghraifft, lludw sy’n codi a lludw gwaelod);
(i)defnyddio deunydd mewn gwaith adfer.
(4)Yn is-adran (3)—
ystyr “arwyneb solet” (“hard standing”) yw sylfaen y cyflawnir gweithgarwch safle tirlenwi arni;
ystyr “bwnd cell” (“cell bund”) yw strwythur mewn man gwarediadau tirlenwi sy’n gwahanu symiau o ddeunydd a ddodir yn y man hwnnw;
ystyr “bwnd sgrinio” (“screening bund”) yw strwythur, pa un ai uwchben y ddaear neu dan ddaear, ar gyfer diogelu neu guddio gweithgarwch safle tirlenwi neu leihau sŵn;
ystyr “gwaith adfer” (“restoration work”) yw gwaith a wneir i adfer safle tirlenwi awdurdodedig (neu unrhyw ran o’r safle) at ddefnydd ac eithrio gwneud gwarediadau tirlenwi; ond nid yw gwaith i adfer man gwarediadau tirlenwi yn waith adfer oni chaiff ei wneud ar ôl i’r man gael ei gapio.
(5)Caiff rheoliadau—
(a)darparu bod gweithgarwch safle tirlenwi i fod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig,
(b)addasu’r disgrifiad o weithgarwch safle tirlenwi penodedig, neu
(c)darparu bod gweithgarwch i beidio â bod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig.
(6)Caiff y rheoliadau ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 8(1)-(3), (5)(6) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
I3A. 8(4) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(a)