RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY
PENNOD 2GWAREDIADAU TRETHADWY
I28Gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy
I31
Mae cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig yng Nghymru i’w drin fel gwarediad trethadwy o’r deunydd y cyflawnir y gweithgarwch mewn perthynas ag ef (pa un a fodlonir yr amodau yn adran 3 ai peidio).
I32
Mae’r gwarediad trethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei wneud pan gyflawnir y gweithgarwch safle tirlenwi penodedig am y tro cyntaf mewn perthynas â’r deunydd.
I33
Mae’r canlynol yn fathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig pan gânt eu cyflawni ar safle tirlenwi awdurdodedig—
a
defnyddio deunydd i greu ffordd dros dro sy’n rhoi mynediad i fan gwarediadau tirlenwi neu i gynnal a chadw ffordd o’r fath;
b
defnyddio deunydd i greu arwyneb solet dros dro neu i gynnal a chadw arwyneb o’r fath;
c
defnyddio deunydd i greu bwnd cell neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;
d
defnyddio deunydd (heblaw deunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnir o’r safle) i greu bwnd sgrinio dros dro neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;
e
defnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn peidio dros dro;
f
gosod deunydd mewn man gwarediadau tirlenwi i ddarparu sylfaen ar gyfer unrhyw beth a ddefnyddir i leinio, i gapio neu i ddraenio’r man hwnnw, neu er mwyn atal difrod i unrhyw beth o’r fath;
g
cadw deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man o dan adran 55, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan adran 56(4)(a);
h
storio lludw (er enghraifft, lludw sy’n codi a lludw gwaelod);
i
defnyddio deunydd mewn gwaith adfer.
I14
Yn is-adran (3)—
ystyr “arwyneb solet” (“hard standing”) yw sylfaen y cyflawnir gweithgarwch safle tirlenwi arni;
ystyr “bwnd cell” (“cell bund”) yw strwythur mewn man gwarediadau tirlenwi sy’n gwahanu symiau o ddeunydd a ddodir yn y man hwnnw;
ystyr “bwnd sgrinio” (“screening bund”) yw strwythur, pa un ai uwchben y ddaear neu dan ddaear, ar gyfer diogelu neu guddio gweithgarwch safle tirlenwi neu leihau sŵn;
ystyr “gwaith adfer” (“restoration work”) yw gwaith a wneir i adfer safle tirlenwi awdurdodedig (neu unrhyw ran o’r safle) at ddefnydd ac eithrio gwneud gwarediadau tirlenwi; ond F1pan fo man gwarediadau tirlenwi yn cael ei gapio, nid yw gwaith a wneir i adfer y man hwnnw yn waith adfer oni chaiff ei wneud ar ôl i’r man gael ei gapio.
I35
Caiff rheoliadau—
a
darparu bod gweithgarwch safle tirlenwi i fod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig,
b
addasu’r disgrifiad o weithgarwch safle tirlenwi penodedig, neu
c
darparu bod gweithgarwch i beidio â bod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig.
I36
Caiff y rheoliadau ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth.