xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 7LL+CAMRYWIOL

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau TirlenwiLL+C

92Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau TirlenwiLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn neu cyn hynny.

(2)Rhaid i’r Cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau gan Weinidogion Cymru i bersonau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y byddant yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol ardaloedd yng Nghymru a effeithir gan—

(a)gwneud gwarediadau tirlenwi, neu

(b)gweithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi.

(3)Caiff y Cynllun ddarparu i’r grantiau—

(a)cael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y Cynllun;

(b)bod yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)adolygu’r Cynllun—

(i)o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a

(ii)yn dilyn hynny, o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol, a

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy pan fyddant yn gwneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun ar ôl cynnal adolygiad; ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf.

(6)Os caiff y Cynllun ei ddiwygio, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun diwygiedig.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw Gynllun diwygiedig, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 92 mewn grym ar 8.11.2017 gan O.S. 2017/955, ergl. 3(b)