(1)Mae’r adran hon yn gymwys i offeryn statudol nad yw ond yn cynnwys—
(a)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan—
(i)adran 14(3) (cyfradd dreth safonol);
(ii)adran 14(6) (cyfradd dreth is);
(iii)adran 46(4) (cyfradd dreth gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi);
(b)rheoliadau a wneir o dan adran 93 sy’n gwneud darpariaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn rheoliadau o fewn paragraff (a), mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn iddi.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Oni chymeradwyir yr offeryn drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, mae’r rheoliadau yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(4)Ond—
(a)os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio ar gynnig am benderfyniad i gymeradwyo’r offeryn cyn diwrnod olaf y cyfnod hwnnw, a
(b)os na chaiff y cynnig ei basio,
maent yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais.
(5)Mewn perthynas â’r rheoliadau—
(a)os ydynt yn peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (3) neu (4),
(b)os gwnaed gwarediad trethadwy ar adeg pan oeddent mewn grym, ac
(c)os yw swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn rhinwedd y rheoliadau yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,
mae’r rheoliadau i’w trin fel pe na baent erioed wedi cael effaith mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw.
(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (3) a (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)wedi ei ddiddymu, neu
(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 95 mewn grym ar 8.9.2017, gweler a. 97(1)