Cyffredinol

10Darparieth bellach ynghylch rheoliadau o dan adran 9

1

Mae’r pŵer yn adran 9 i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Caiff rheoliadau o dan adran 9 ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth o’r Ddeddf hon).

3

Os yw’r is-adran hon yn gymwys, ni chaniateir i reoliadau o dan adran 9 gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

4

Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo rheoliadau o dan adran 9 yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pa un a yw’r offeryn statudol yn cynnwys unrhyw reoliadau eraill ai peidio.

5

Pan na fo is-adran (3) yn gymwys, mae rheoliadau o dan adran 9 yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.