Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/04/2021.
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Croes Bennawd: Swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 26 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—
(a)i gorff llywodraethu ysgol yng Nghymru—
(i)sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol,
(ii)sy’n ysgol feithrin a gynhelir, neu
(iii)sy’n uned cyfeirio disgyblion;
(b)i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(2)Rhaid i’r corff llywodraethu ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.
(3)Mae person sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol”.
(4)Caiff rheoliadau—
(a)ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau);
(b)rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn perthynas â darparu ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.
(5)Yn is-adrannau (2) a (4)(b), ystyr “myfyrwyr” yw myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad yn y sector addysg bellach.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 60 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(g)
I3A. 60 mewn grym ar 4.1.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(2)(c)
(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
(2)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog—
(a)sy’n ymarferydd meddygol cofrestredig, neu
(b)sy’n nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.
(3)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog y mae’n ystyried ei fod yn meddu ar gymwysterau a phrofiad addas o ran darparu gofal iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
(4)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I5A. 61 mewn grym ar 4.1.2021 gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(1)
(1)Rhaid i awdurdod lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlant sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.
(2)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I7A. 62 mewn grym ar 4.1.2021 gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: