RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU
Trefniadau awdurdodau lleol
I268Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau
1
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—
a
cyrff addysg, a
b
plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, neu yn achos plant o’r fath, eu rhieni,
ynghylch arfer gan gyrff addysg eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.
2
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—
a
perchenogion sefydliadau perthnasol, a
b
plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac, yn achos plant o’r fath, eu rhieni,
ynghylch y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir ar gyfer plant neu bobl ifanc.
3
Rhaid i’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth i bartïon mewn anghytundeb gael mynediad at help i’w ddatrys oddi wrth bersonau sy’n annibynnol ar y partïon.
4
Rhaid i awdurdod lleol hybu’r defnydd o’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.
5
Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i blant, eu rhieni a phobl ifanc nad yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon yn effeithio ar unrhyw hawliau a all fod ganddynt i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.
6
Yn yr adran hon, ystyr “corff addysg” yw unrhyw un o’r canlynol—
a
corff llywodraethu ysgol a gynhelir;
b
corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;
c
awdurdod lleol.
7
Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad perthnasol” yw—
a
ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;
b
sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
c
sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ar y rhestr a gynhelir o dan adran 56;
d
ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;
e
ysgol arbennig nas cynhelir;
f
Academi.
8
At ddibenion yr adran hon ac adran 69 mae awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am blant y mae’n gofalu amdanynt nad ydynt yn ei ardal.
I169Gwasanaethau eirioli annibynnol
1
Rhaid i awdurdod lleol—
a
gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt;
b
atgyfeirio unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol;
c
atgyfeirio unrhyw berson sy’n gyfaill achos i blentyn y mae’n gyfrifol amdano ac sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol.
2
Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau eirioli annibynnol” yw cyngor a chymorth (drwy gynrychiolaeth neu fel arall) i blentyn, person ifanc neu gyfaill achos—
a
sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon,
b
sy’n ystyried pa un ai i apelio i’r Tribiwnlys ai peidio, neu
c
sy’n cymryd rhan, neu sy’n bwriadu cymryd rhan, mewn trefniadau a wneir o dan adran 68.
3
Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau fod yn annibynnol ar unrhyw berson sydd—
a
yn destun apêl i’r Tribiwnlys, neu
b
yn ymwneud ag ymchwilio i apêl o’r fath neu ddyfarnu arni.
4
Caiff y trefniadau gynnwys darpariaeth i’r awdurdod lleol wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, sy’n cyflawni swyddogaethau yn unol â’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.