Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn GymraegLL+C
89Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn GymraegLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu—
(a)ar gyfer adolygiadau o ddigonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;
(b)i adroddiadau ar ganlyniad yr adolygiadau gael eu llunio a’u cyhoeddi.
(2)Nid yw is-adran (1) yn atal adolygiadau rhag delio â materion eraill hefyd.
(3)Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf ar ganlyniad adolygiad cyn 1 Medi yn y bumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y dygir unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon i rym drwy orchymyn (pa un ai at bob diben neu at ddibenion cyfyngedig).
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau dilynol cyn 1 Medi ym mhob pumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf yr oedd yn ofynnol cyhoeddi adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 89 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(h)
90Pŵer i ddiwygio dyletswyddau i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn GymraegLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn—
adran 12(7)(b);
adran 14(10)(c);
adran 19(7)(c);
adran 20(5)(c);
adran 21(5);
adran 42(8)(b).
(2)Caiff rheoliadau hepgor y geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” o ddarpariaeth.
(3)Caiff rheoliadau ddarparu bod darpariaeth yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor—
(a)at ddiben rhagnodedig,
(b)mewn perthynas â chorff rhagnodedig, neu
(c)at ddiben rhagnodedig mewn perthynas â chorff rhagnodedig.
(4)Os yw’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor gan reoliadau o dan is-adran (2) o bob darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, caiff rheoliadau hepgor adran 89.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I4A. 90 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(h)