RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 5CYFFREDINOL

Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

I4I289Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

1

Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu—

a

ar gyfer adolygiadau o ddigonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

b

i adroddiadau ar ganlyniad yr adolygiadau gael eu llunio a’u cyhoeddi.

2

Nid yw is-adran (1) yn atal adolygiadau rhag delio â materion eraill hefyd.

3

Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf ar ganlyniad adolygiad cyn 1 Medi yn y bumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y dygir unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon i rym drwy orchymyn (pa un ai at bob diben neu at ddibenion cyfyngedig).

4

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau dilynol cyn 1 Medi ym mhob pumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf yr oedd yn ofynnol cyhoeddi adroddiad.

I1I390Pŵer i ddiwygio dyletswyddau i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

1

Mae’r adran hon yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn—

  • adran 12(7)(b);

  • adran 14(10)(c);

  • adran 19(7)(c);

  • adran 20(5)(c);

  • adran 21(5);

  • adran 42(8)(b).

2

Caiff rheoliadau hepgor y geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” o ddarpariaeth.

3

Caiff rheoliadau ddarparu bod darpariaeth yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor—

a

at ddiben rhagnodedig,

b

mewn perthynas â chorff rhagnodedig, neu

c

at ddiben rhagnodedig mewn perthynas â chorff rhagnodedig.

4

Os yw’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor gan reoliadau o dan is-adran (2) o bob darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, caiff rheoliadau hepgor adran 89.