RHAN 3TRIBIWNLYS ADDYSG CYMRU
I9I6I291Cyfansoddiad Tribiwnlys Addysg Cymru
1
Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru i barhau a chaiff ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.
2
Mae’r Tribiwnlys i gael—
a
Llywydd i’r Tribiwnlys,
b
panel o bersonau a gaiff wasanaethu fel cadeirydd cyfreithiol y Tribiwnlys (“y panel cadeirydd cyfreithiol”), ac
c
panel o bersonau a gaiff wasanaethu fel y ddau aelod arall o’r Tribiwnlys ond nid fel y cadeirydd cyfreithiol (“y panel lleyg”).
3
Mae’r Llywydd i gael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor F2....
4
Mae pob aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol i gael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor F1....
5
Mae aelodau’r panel lleyg i gael eu penodi gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Llywydd.
6
Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru—
a
darparu i awdurdodaeth y Tribiwnlys gael ei harfer gan y nifer hwnnw o dribiwnlysoedd y mae’r Llywydd yn penderfynu arno o bryd i’w gilydd, a
b
gwneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â sefydlu’r Tribiwnlys a’i barhad yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol.
7
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adeiladau ar gyfer y Tribiwnlys.
I3I7I192Y Llywydd ac aelodau’r paneli
1
Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n Llywydd nac yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol oni bai ei fod yn bodloni’r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd.
2
Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n aelod o’r panel lleyg oni bai ei fod yn bodloni gofynion a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
3
Os yw’r Llywydd, ym marn yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus, yn anaddas i barhau mewn swydd neu’n analluog i gyflawni ei ddyletswyddau, caiff yr Arglwydd Ganghellor (gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus) ei ddiswyddo.
4
Mae pob aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg i ddal a gadael swydd o dan delerau’r offeryn y mae wedi ei benodi odano.
5
Ond dim ond gyda chytundeb y Llywydd y caniateir i aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg gael ei ddiswyddo o dan delerau’r offeryn.
6
O ran y Llywydd neu aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg—
a
caiff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Arglwydd Ganghellor neu (yn ôl y digwydd) i Weinidogion Cymru, a
b
mae’n gymwys i gael ei ailbenodi os yw’n peidio â dal y swydd.
I10I593Dirprwy Lywydd y Tribiwnlys
1
Caiff y Llywydd benodi aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol yn Ddirprwy Lywydd y Tribiwnlys.
2
Mae person a benodir yn Ddirprwy Lywydd y Tribiwnlys yn dal ac yn gadael y swydd honno yn unol â’r telerau penodi.
3
Mae person yn peidio â bod yn Ddirprwy Lywydd os yw’n peidio â bod yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol.
4
Caiff person ymddiswyddo fel Dirprwy Lywydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Llywydd.
5
Caiff Dirprwy Lywydd arfer swyddogaethau’r Llywydd—
a
os yw’r Llywydd wedi dirprwyo eu harfer i’r Dirprwy Lywydd,
b
os yw swydd y Llywydd yn wag, neu
c
os na all y Llywydd eu harfer am unrhyw reswm.
I4I894Tâl a threuliau
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
talu tâl a lwfansau i’r Llywydd ac unrhyw berson arall mewn cysylltiad â’i wasanaeth fel aelod o’r Tribiwnlys, a
b
talu treuliau’r Tribiwnlys.