ATODLEN 1LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

6LL+CO ganlyniad i’r diwygiadau a wneir gan baragraffau 4 a 5—

(a)yn Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 23 a 24;

(b)yn Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 71 i 79, 81, 84 a 186;

(c)yn Neddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p. 10)

(i)mae Rhan 1 (anghenion addysgol arbennig) wedi ei diddymu;

(ii)yn Rhan 1 o Atodlen 8 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol: Deddf 1996), hepgorer paragraffau 3, 6 i 11, 13, 14 a 15(3);

(d)yn Neddf Addysg 2002 (p. 32)

(i)hepgorer adran 173 (hawl mynediad awdurdod lleol);

(ii)hepgorer adran 194(2) (pwerau awdurdodau lleol i wneud darpariaeth ranbarthol);

(iii)yn Rhan 2 o Atodlen 7 (Academïau: atodol), hepgorer paragraff 6(3);

(iv)yn Atodlen 18 (Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru) hepgorer paragraffau 1 i 3, 6, 15, 17 (a’r croesbennawd sy’n ei ragflaenu) a 18;

(v)yn Atodlen 18, ym mharagraff 13, yn lle “Special Educational Needs Tribunal for Wales under section 333(2) of the Education Act 1996 (c 56)” rhodder “Education Tribunal for Wales under section 91(5) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”;

(vi)yn Atodlen 21 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 36 i 44 a 58;

(e)yn Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43) (diwygiadau’n ymwneud ag ymddiriedolaethau sefydledig GIG), hepgorer paragraff 104 (a’r croesbennawd sy’n ei ragflaenu) a pharagraff 105;

(f)yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4), hepgorer paragraff 259;

(g)yn Rhan 1 o Atodlen 10 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (diwygiadau’n ymwneud â phenodiadau barnwrol), hepgorer paragraff 28;

(h)yn Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) (diwygiadau amrywiol), hepgorer paragraff 2;

(i)yn Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 22;

(j)yn Neddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40)

(i)hepgorer adran 173 (cydlynwyr anghenion addysgol arbennig);

(ii)hepgorer adran 174 (terfynau amser sy’n ymwneud â datganiadau anghenion addysgol arbennig);

(k)yn Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43) (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 182;

(l)yn Neddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)

(i)yn adran 147 (cymeradwyo ysgolion annibynnol: diwygiadau canlyniadol), yn is-adran (2) hepgorer paragraffau (a) a (b), a hepgorer is-adran (3);

(ii)yn Atodlen 1 (diwygiadau), hepgorer paragraffau 7 a 10;

(iii)yn Atodlen 1 (diwygiadau), ym mharagraff 11, hepgorer y cofnod a ganlyn⁠—

the appropriate national authority (in Chapter 2 of Part 4)section 337A;

(m)ym Mesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 7)

(i)hepgorer adrannau 1 i 7 (apelau anghenion addysgol arbennig);

(ii)yn yr Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraff 1 (a’r pennawd sy’n ei ragflaenu), a pharagraffau 2 i 5.

(n)yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22)

(i)hepgorer adran 52 (rhyddhau plentyn neu berson ifanc ag anghenion addysgol arbennig oedd yn cael ei gadw’n gaeth);

(ii)yn Atodlen 2 (swyddogaethau awdurdodau lleol: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 6 ac 11;

(o)yn Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) (diwygiadau), hepgorer paragraffau 36 a 37;

(p)yn Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 (diwygiadau canlyniadol), ym mharagraff 9, hepgorer is-baragraffau (4) a (5);

(q)yn Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7) (diwygiadau), hepgorer paragraffau 78 a 79;

(r)yn Rhan 3 o Atodlen 9 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) (un llys sirol: diwygiadau), ym mharagraff 52(2) hepgorer y cofnod ar gyfer Deddf Addysg 1996;

(s)yn Atodlen 3 i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 9 i 35 a pharagraffau 38, 41(2)(b) (a’r “and” sy’n ei ragflaenu), 42(d) (ac, yn unol â hynny, rhodder yr “and” sy’n ei ragflaenu ar ôl is-baragraff (b)), 44(3) a (4), 55 i 58, 59(c) a 60(c) ac (g);

(t)hepgorer paragraff 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)