RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

I1100Dod i rym

1

Daw’r adran hon ac adrannau 1, 97, 98, 99 ac 101 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

2

Daw paragraff 5 o Atodlen 1 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

3

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

4

Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

a

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;

b

gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.