15Termau allweddolLL+C
(1)Mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol—
(a)os nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac os yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”), a
(b)os nad yw’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth.
(2)Caiff rheoliadau ragnodi categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad ydynt i gael eu trin fel pe baent yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)Ystyr “swyddog adolygu annibynnol” yw’r swyddog a benodir o dan adran 99 o Ddeddf 2014 ar gyfer achos plentyn.
(4)Ystyr “cynllun addysg personol” yw’r cynllun sydd wedi ei gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth a gynhelir ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 83(2A) o Ddeddf 2014.
(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 15 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(b)