18Dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegolLL+C
(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.
(2)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 19;
(b)bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a
(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
(c)bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
(3)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 18(3) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 18 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I3A. 18 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I4A. 18 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I5A. 18 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I6A. 18 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I7A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I8A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4
I9A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I10A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I11A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I12A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I13A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I14A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)