xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ei adolygu cyn diwedd pob cyfnod adolygu.
(2)Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o’r cynllun o dan adran 22.
(3)Mae pob cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
(a)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol y rhoddir copi o gynllun diwygiedig o dan is-adran (11) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu
(b)pan na fo’r cynllun wedi ei ddiwygio yn y cyfnod adolygu blaenorol—
(i)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad o dan is-adran (10) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu
(ii)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad o dan adran 27(4) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw.
(4)Ond pan na fo’r un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) a (b) wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, mae’r cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw.
(5)Pan fo’n ofynnol rhoi copi o gynllun, cynllun diwygiedig neu hysbysiad o benderfyniad i fwy nag un person, mae’r cyfeiriad yn is-adrannau (2) a (3) at y dyddiad y’i rhoddir yn gyfeiriad at y dyddiad y rhoddir y cynllun, y cynllun diwygiedig neu’r hysbysiad o benderfyniad gyntaf.
(6)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i adolygu cynllun cyn diwedd cyfnod adolygu yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os, cyn diwedd y cyfnod hwnnw—
(a)caiff y cynllun ei ailystyried gan awdurdod lleol o dan adran 27;
(b)yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun, neu
(c)yn achos cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i awdurdod lleol adolygu’r cynllun.
(7)Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol adolygu cynllun datblygu unigol y mae’n ofynnol iddo ei gynnal os—
(a)yw’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ofynnol i gorff GIG ei sicrhau o dan adran 20, a
(b)yw’r corff GIG yn gofyn iddo adolygu’r cynllun.
(8)Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc adolygu’r cynllun os gofynnir iddo wneud hynny gan y plentyn, gan riant y plentyn neu gan y person ifanc, oni bai ei fod yn ystyried bod adolygiad yn ddiangen.
(9)Caiff corff llywodraethu neu awdurdod lleol—
(a)adolygu cynllun datblygu unigol ar unrhyw adeg, a
(b)diwygio cynllun yn dilyn adolygiad.
(10)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn penderfynu yn dilyn adolygiad (sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon) na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(11)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn diwygio cynllun datblygu unigol (fel sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon), rhaid iddo roi copi o’r cynllun diwygiedig—
(a)i’r plentyn neu i’r person ifanc, a
(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, i riant y plentyn.
(12)Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw cynllun datblygu unigol yn ymwneud â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 23(1): rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (1.9.2021) gan 2020 c. 7, Atod. 17 para. 7(5) (fel y’i diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (O.S. 2021/861), rhlau. 1, 11(2))
C2A. 23(8) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(i)
C3A. 23(8) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(f)
C4A. 23(10)(11)(a) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(j)
C5A. 23(10)(11) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 23 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I3A. 23 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 23 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I5A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I6A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I7A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4
I8A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I9A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I10A. 23 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 2)
I11A. 23 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 3)
I12A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25) (fel y’u diwygiwyd gan (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 4
I13A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22) (fel y’u diwygiwyd gan (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 5
I14A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 6