Valid from 01/09/2021
24Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sy’n derbyn gofalLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun cyn diwedd pob cyfnod adolygu.
(2)Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o’r cynllun gyntaf o dan adran 22.
(3)Mae pob cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
(a)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol y rhoddir copi o gynllun diwygiedig gyntaf o dan is-adran (10) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu
(b)pan na fo’r cynllun wedi ei ddiwygio yn y cyfnod adolygu blaenorol, â’r dyddiad yn ystod y cyfnod hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad gyntaf o dan is-adran (9) mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.
(4)Ond pan na fo’r naill ddogfen na’r llall o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) a (b) wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, mae’r cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw.
(5)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i adolygu cynllun cyn diwedd cyfnod adolygu yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw Tribiwnlys Addysg Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn gorchymyn i’r awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun.
(6)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os—
(a)yw’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ofynnol i gorff GIG ei sicrhau o dan adran 20, a
(b)yw’r corff GIG yn gofyn i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun.
(7)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os gofynnir iddo wneud hynny gan y plentyn sy’n derbyn gofal neu gan riant y plentyn sy’n derbyn gofal, oni bai bod yr awdurdod yn ystyried bod adolygiad yn ddiangen.
(8)Caiff awdurdod lleol—
(a)adolygu cynllun datblygu unigol ar unrhyw adeg, a
(b)diwygio cynllun yn dilyn adolygiad.
(9)Os yw awdurdod lleol yn penderfynu yn dilyn adolygiad (sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)) na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(10)Os yw awdurdod lleol yn diwygio cynllun datblygu unigol plentyn sy’n derbyn gofal (fel sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)), rhaid iddo roi copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig i—
(a)y plentyn sy’n derbyn gofal,
(b)rhiant y plentyn sy’n derbyn gofal, ac
(c)swyddog adolygu annibynnol y plentyn sy’n derbyn gofal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)