28Dyletswydd awdurdodau lleol i benderfynu pa un ai i gymryd drosodd gynlluniau cyrff llywodraethu ai peidioLL+C
(1)Mae is-adran (3) yn gymwys pan—
(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12(1) neu 12(3), a
(b)bo unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.
(2)Y personau yw—
(a)y plentyn neu’r person ifanc,
(b)yn achos plentyn, rhiant y plentyn, neu
(c)y corff llywodraethu.
(3)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol a gynhelir gan y corff llywodraethu.
(4)Pan fo corff llywodraethu yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am y cais a gwahodd sylwadau.
(5)Pan fo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.
(6)Caiff awdurdod lleol benderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’n penderfynu o dan adran 27(6) y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio.
(7)Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, a’r corff llywodraethu am—
(a)penderfyniad o dan is-adran (3) neu (6), a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(8)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun—
(a)mae i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, a
(b)nid yw’n ofynnol i’r corff llywodraethu ei gynnal,
o’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (7).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 28(2)(a) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(n)
C2A. 28(2)(b) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(j)
C3A. 28(4)(5) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(n)
C4A. 28(4)(5) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(j)
C5A. 28(7) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(j)
C6A. 28(7) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(n)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 28 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I3A. 28 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 28 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I5A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I6A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I7A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I8A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4
I9A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I10A. 28 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 2)
I11A. 28 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 3)
I12A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 4)
I13A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 5)
I14A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 6)