30Cofrestru neu ymrestru mewn mwy nag un sefydliad
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
(a)bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall, y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd) anghenion dysgu ychwanegol,
(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
(c)bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt,
(d)na fo cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, ac
(e)bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.
(2)Rhaid i’r corff llywodraethu atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc er mwyn i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1).
(3)Mae is-adrannau (4), (5) a (6) yn gymwys pan—
(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc,
(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
(c)bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt, a
(d)bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.
(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol yn lle’r corff llywodraethu ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.
(5)Mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn is-adran (4) yn cymryd effaith ar y diwrnod yr hysbysir yr awdurdod o dan is-adran (6) neu pan ddaw’n ymwybodol fel arall fod yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3) yn gymwys.
(6)Os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn ymwybodol bod yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) yn gymwys mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd), rhaid i’r corff llywodraethu roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc am y ffaith honno.
(7)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei bŵer i gyfarwyddo o dan is-adrannau (2)(b) neu (4) o adran 14 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn mwy nag un sefydliad (pa un a yw’n ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) os yw addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu iddo ym mhob un o’r sefydliadau hynny.