Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 33

 Help about opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/08/2023.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 33 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 25 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

33Cyfyngiad ar beidio â chynnal cynlluniau er mwyn caniatáu ailystyriaeth neu apêlLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) oni bai bod is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r cyfnod a ragnodir o dan adran 32(1)(b) wedi dod i ben ac nad oes cais wedi ei wneud o dan yr adran honno.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 32 y dylai’r cynllun beidio â chael ei gynnal ac—

(a)bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu

(b)bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.

(4)Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach sy’n gweithredu o dan adran 31(5), neu awdurdod lleol sy’n gweithredu o dan adran 31(6), beidio â chynnal cynllun datblygu unigol tan pa un bynnag o’r canlynol sydd ddiweddaraf—

(a)bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chynnal y cynllun gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu

(b)bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 33 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 33 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I4A. 33 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I5A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3

I6A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I7A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4

I8A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)

I9A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I10A. 33 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 2)

I11A. 33 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 3)

I12A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 4)

I13A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 5)

I14A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 6)

Back to top

Options/Help