4Cod anghenion dysgu ychwanegolLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“y cod”) a chânt ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.
(2)Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac ynghylch unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â nodi a diwallu anghenion dysgu ychwanegol.
(3)Rhaid i’r personau a ganlyn, wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod—
(a)awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;
(c)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
(d)perchennog Academi;
(e)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;
(f)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(g)Bwrdd Iechyd Lleol;
(h)ymddiriedolaeth GIG;
[F1(i)GIG Lloegr;]
[F2(j)bwrdd gofal integredig;]
(k)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
(l)Awdurdod Iechyd Arbennig.
(4)Gweler adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol addysg feithrin roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y cod.
(5)Caiff y cod osod gofynion—
(a)ar awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau y mae rhaid iddo eu gwneud o dan adrannau 9 (cyngor a gwybodaeth), 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
(b)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol mewn cysylltiad â—
(i)penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol,
(ii)llunio, cynnwys, ffurf, adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol, neu
(iii)peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol;
(c)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon.
(6)Rhaid i’r cod gynnwys y gofynion a ganlyn ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol—
(a)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(i) i’r hysbysiad o benderfyniad nad oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol gael ei roi yn unol ag adran 11(4), 13(3), 18(3) neu 40(4) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;
(b)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i lunio cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono yn unol ag adran 22 neu 40(5) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;
(c)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i ddefnyddio’r ffurf safonol briodol a nodir yn y cod ar gyfer cynllun datblygu unigol; a rhaid i’r cod gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol at y diben hwn.
(7)Caiff y cod wneud—
(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a
(b)darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed,
mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7(4) neu 8(4).
(8)Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (3) a dyletswydd a osodir o dan is-adran (5) hefyd yn gymwys i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3).
(9)Nid yw’r pŵer i osod gofynion o dan is-adran (5)(c) yn cynnwys y pŵer i osod gofynion mewn cysylltiad â datgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, ac eithrio mewn achosion pan fo’r person yn rhiant i blentyn ac mai’r plentyn yw testun y data; F3...
[F4(9A)Yn is-adran (9)—
mae i “data personol” yr un ystyr ag a roddir i “personal data” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno);
mae i “testun y data” yr ystyr a roddir i “data subject” gan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.]
(10)Rhaid i Dribiwnlys Addysg Cymru roi sylw i unrhyw ddarpariaeth yn y cod yr ymddengys iddo ei bod yn berthnasol i gwestiwn sy’n codi ar apêl o dan y Rhan hon.
(11)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod sydd mewn grym am y tro ar eu gwefan.
Diwygiadau Testunol
F1A. 4(3)(i) wedi ei amnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 1 para. 35(b); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F2A. 4(3)(j) wedi ei amnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 4 para. 231(b); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F3Geiriau yn a. 4(9) wedi eu hepgor (25.5.2018) yn rhinwedd Data Protection Act 2018 (c. 12), a. 212(1), Atod. 19 para. 226(3)(a) (ynghyd ag aau. 117, 209, 210); O.S. 2018/625, rhl. 2(1)(g)
F4A. 4(9A) wedi ei fewnosod (25.5.2018) gan Data Protection Act 2018 (c. 12), a. 212(1), Atod. 19 para. 226(3)(b) (ynghyd ag aau. 117, 209, 210); O.S. 2018/625, rhl. 2(1)(g)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 4 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(a)
I3A. 4 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I4A. 4 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I5A. 4 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(a), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I6A. 4 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I7A. 4 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I8A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(a)
I9A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I10A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I11A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(a), 3
I12A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I13A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I14A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I15A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(a), 4