RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD

Cod ymarfer

I3I2I5I1I6I4I7I10I9I8I11I12I13I14I154Cod anghenion dysgu ychwanegol

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“y cod”) a chânt ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.

2

Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac ynghylch unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â nodi a diwallu anghenion dysgu ychwanegol.

3

Rhaid i’r personau a ganlyn, wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod—

a

awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;

b

corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

c

corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

d

perchennog Academi;

e

tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

f

person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

g

Bwrdd Iechyd Lleol;

h

ymddiriedolaeth GIG;

F1i

GIG Lloegr;

F4j

bwrdd gofal integredig;

k

ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

l

Awdurdod Iechyd Arbennig.

4

Gweler adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol addysg feithrin roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y cod.

5

Caiff y cod osod gofynion—

a

ar awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau y mae rhaid iddo eu gwneud o dan adrannau 9 (cyngor a gwybodaeth), 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

b

ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol mewn cysylltiad â—

i

penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol,

ii

llunio, cynnwys, ffurf, adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol, neu

iii

peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol;

c

ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon.

6

Rhaid i’r cod gynnwys y gofynion a ganlyn ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol—

a

gofyniad o dan is-adran (5)(b)(i) i’r hysbysiad o benderfyniad nad oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol gael ei roi yn unol ag adran 11(4), 13(3), 18(3) neu 40(4) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

b

gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i lunio cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono yn unol ag adran 22 neu 40(5) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

c

gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i ddefnyddio’r ffurf safonol briodol a nodir yn y cod ar gyfer cynllun datblygu unigol; a rhaid i’r cod gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol at y diben hwn.

7

Caiff y cod wneud—

a

darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a

b

darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed,

mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7(4) neu 8(4).

8

Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (3) a dyletswydd a osodir o dan is-adran (5) hefyd yn gymwys i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3).

9

Nid yw’r pŵer i osod gofynion o dan is-adran (5)(c) yn cynnwys y pŵer i osod gofynion mewn cysylltiad â datgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, ac eithrio mewn achosion pan fo’r person yn rhiant i blentyn ac mai’r plentyn yw testun y data; F2...

F39A

Yn is-adran (9)—

  • mae i “data personol” yr un ystyr ag a roddir i “personal data” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno);

  • mae i “testun y data” yr ystyr a roddir i “data subject” gan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.

10

Rhaid i Dribiwnlys Addysg Cymru roi sylw i unrhyw ddarpariaeth yn y cod yr ymddengys iddo ei bod yn berthnasol i gwestiwn sy’n codi ar apêl o dan y Rhan hon.

11

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod sydd mewn grym am y tro ar eu gwefan.