Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/08/2023.
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 40 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod cartref yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall—
(a)y gall fod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw gan awdurdod lleol o dan adran 42.
(2)Rhaid i’r awdurdod—
(a)penderfynu a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)os yw’n penderfynu bod gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, benderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 a fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau er mwyn diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am addysg neu hyfforddiant.
(3)Cyn i’r awdurdod cartref wneud ei benderfyniad rhaid iddo wahodd y person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol i fod yn rhan o’r penderfyniad ac, os oes angen cynllun datblygu unigol, yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun datblygu unigol.
(4)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu nad oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol neu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo hysbysu’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.
(5)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol ac y bydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo—
(a)llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a
(b)rhoi copi o’r cynllun i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.
(6)Os yw’r awdurdod cartref yn llunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—
(a)penderfynu a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a
(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
(7)Os na fydd yn bosibl diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol pan gaiff ei ryddhau oni bai bod yr awdurdod cartref hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (8), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.
(8)Y mathau o ddarpariaeth yw—
(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;
(b)bwyd a llety.
(9)O ran y ddyletswydd yn is-adran (7)—
(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;
(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 40(4) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 36(a)
C2A. 40(4) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 38(a)
C3A. 40(5)(b) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 36(a)
C4A. 40(5)(b) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 38(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 40 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5
I3A. 40 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 40 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I5A. 40 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I6A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3
I7A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)
I8A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4
I9A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I10A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I11A. 40 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 2)
I12A. 40 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 3)
I13A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 4)
I14A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 5)
I15A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 6)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: