RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3LL+CSWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

47Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,

(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer, ac

(c)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r ysgol neu’r sefydliad, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc yn galw amdani yn cael ei gwneud.

(3)Rhaid i’r Cod o dan adran 4 gynnwys canllawiau ynghylch arfer y swyddogaeth yn is-adran (2) yn ystod y cyfnod y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ynddo ar gyfer plentyn neu berson ifanc ond nad yw wedi ei roi.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer gan awdurdod lleol, a

(b)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(5)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd) gymryd pob cam rhesymol i helpu’r awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 47 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(c)

I3A. 47 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 47 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I5A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I6A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I7A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(f), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))