Valid from 01/09/2021
55Amodau sy’n gymwys i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgolion annibynnolLL+C
(1)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn ysgol annibynnol yng Nghymru oni bai—
(a)bod yr ysgol wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru, a
(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall yr ysgol wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.
(2)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn sefydliad addysgol annibynnol yn Lloegr oni bai—
(a)bod y sefydliad wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) (“Deddf 2008”)), a
(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall y sefydliad wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.
(3)Yn yr adran hon, mae i “sefydliad addysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent educational institution” gan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 2008.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)