RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall
57Diddymu cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng Nghymru
(1)
Mae Deddf Addysg 1996 (p. 56) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 337A (dehongli’r Bennod), hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.
(3)
Yn adran 342 (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir)—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a
(ii)
ar ôl “school”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “in England”;
(b)
yn is-adran (5)(a), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(c)
hepgorer is-adran (6).