RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol
60Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol
(1)
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—
(a)
i gorff llywodraethu ysgol yng Nghymru—
(i)
sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol,
(ii)
sy’n ysgol feithrin a gynhelir, neu
(iii)
sy’n uned cyfeirio disgyblion;
(b)
i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(2)
Rhaid i’r corff llywodraethu ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.
(3)
Mae person sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol”.
(4)
Caiff rheoliadau—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau);
(b)
rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn perthynas â darparu ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.
(5)
Yn is-adrannau (2) a (4)(b), ystyr “myfyrwyr” yw myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad yn y sector addysg bellach.