61Swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedigLL+C
(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
(2)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog—
(a)sy’n ymarferydd meddygol cofrestredig, neu
(b)sy’n nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.
(3)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog y mae’n ystyried ei fod yn meddu ar gymwysterau a phrofiad addas o ran darparu gofal iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
(4)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 61 mewn grym ar 4.1.2021 gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(1)