Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/11/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 65 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arallLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol arall;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)perchennog Academi;

(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)Bwrdd Iechyd Lleol;

(i)ymddiriedolaeth GIG;

(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(k)grŵp comisiynu clinigol;

(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 65 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(h)

Back to top

Options/Help