68Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—
(a)cyrff addysg, a
(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, neu yn achos plant o’r fath, eu rhieni,
ynghylch arfer gan gyrff addysg eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—
(a)perchenogion sefydliadau perthnasol, a
(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac, yn achos plant o’r fath, eu rhieni,
ynghylch y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir ar gyfer plant neu bobl ifanc.
(3)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth i bartïon mewn anghytundeb gael mynediad at help i’w ddatrys oddi wrth bersonau sy’n annibynnol ar y partïon.
(4)Rhaid i awdurdod lleol hybu’r defnydd o’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.
(5)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i blant, eu rhieni a phobl ifanc nad yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon yn effeithio ar unrhyw hawliau a all fod ganddynt i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “corff addysg” yw unrhyw un o’r canlynol—
(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;
(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;
(c)awdurdod lleol.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad perthnasol” yw—
(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;
(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
(c)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ar y rhestr a gynhelir o dan adran 56;
(d)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(e)ysgol arbennig nas cynhelir;
(f)Academi.
(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 69 mae awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am blant y mae’n gofalu amdanynt nad ydynt yn ei ardal [a phersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth y mae’r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod cartref iddynt].
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn