7Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r PlentynLL+C
(1)Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i dderbyn gan benderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol ar 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).
(2)At ddibenion is-adran (1), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith—
(a)fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond
(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u nodir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen honno.
(3)Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.
(4)Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.
(5)Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff GIG.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 7 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(b)